OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 314 (Cy. 103)
ADNODDAU DŴR, CYMRU
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”), sy’n rhestru’r dyfroedd a nodwyd gan Weinidogion Cymru fel dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Traeth Gwledig Aberdyfi at y rhestr o ddyfroedd ymdrochi a nodwyd yn y Rheoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
ADNODDAU DŴR, CYMRU
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2016
Gwnaed 8 Mawrth 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mawrth 2016
Yn dod i rym 30 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 30 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013
2. Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013([3]) ar ôl “Aberdyfi” mewnosoder “Aberdyfi Rural Beach”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2016
([1]) Gweler O.S. 2003/2901 ar gyfer y dynodiad a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru.